P-04-655 Mynnu ein Hawliau i'r Gymraeg yn y Sector Breifat. Gohebiaeth gan y Deisebydd at y Cadeirydd 17.12.15
Annwyl Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau William Powell AC
Ysgrifennaf atoch yn dilyn cyhoeddiad gan Gomisiynydd y Gymraeg ar 2ail Rhagfyr eleni sy'n amlinellu amserlen ynghylch gosod Safonau'r Gymraeg ar rai categorïau o gwmnïau preifat. Gallwch chi weld y cyhoeddiad yma: http://www.comisiynyddygymraeg.cymru/cymraeg/newyddion/Pages/Comisiynydd-yn-cyflwyno-mwy--o-adroddiadau-safonau-ac-yn-cyhoeddi%E2%80%99r-camau-nesaf-wrth-gyflwyno-safonau%E2%80%99r-Gymraeg.aspx
Hoffem bwysleisio nad yw cyhoeddiad y Comisiynydd yn un sy'n bodloni gofynion ein deiseb, sy'n cyfeirio'n benodol at amserlen ar gyfer cynnwys y sector telathrebu o dan y gyfundrefn Safonau. Yn wir, mae'r cyhoeddiad yn groes i'r hyn ddywedodd Comisiynydd y Gymraeg wrthym mewn cyfarfod ar 26ain Hydref eleni sef y byddai hi'n cyhoeddi amserlen ar gyfer yr holl sectorau preifat a enwir yn y Mesur, gan gynnwys cwmnïau ffôn a thelathrebu, yn ei chyhoeddiad cyn diwedd y flwyddyn.
Hoffem ofyn i chi alw ar i'r Comisiynydd ymddangos gerbron y pwyllgor i esbonio pam nad yw hi wedi cadw at ei haddewid a pham nad oes amserlen ar gyfer gosod safonau ar y sector telathrebu yn benodol.
Diolch i chi eto am roi ystyriaeth i'n gohebiaeth. Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes unrhyw fater arall yr hoffech ragor o wybodaeth neu eglurder yn ei gylch.
Yn gywir,
Manon Elin James
P-04-655 Mynnu ein Hawliau i'r Gymraeg yn y Sector Breifat. Gohebiaeth gan y Deisebydd at y Cadeirydd 28.01.16
Annwyl William Powell AC
Yn bellach i'r e-bost yr anfonom atoch ar 17 Rhagfyr 2015, rydym wedi cael cyfle i edrych ar yr ohebiaeth yr ydych wedi ei derbyn gan y Comisiynydd a'r Llywodraeth.
Rydym yn falch bod y Llywodraeth wedi datgan ei bod yn fodlon "ystyried os oes angen ymestyn sgôp y Mesur i alluogi Comisiynydd y Gymraeg i osod safonau ar sectorau eraill" er, gyda nifer o sectorau, megis y banciau, mae'n gwbl glir fod angen gosod Safonau arnynt.
Fodd bynnag, nid yw'r Comisiynydd na'r Llywodraeth wedi ateb pam nad oes amserlen ar gyfer gosod Safonau ar y sector telathrebu, a hynny dros bum mlynedd ers i Fesur y Gymraeg (2011) gael ei basio. Pam eu bod nhw'n osgoi ateb y cwestiwn?
Eto, awgrymwn fod angen i'r pwyllgor alw'r Comisiynydd gerbron y pwyllgor er mwyn iddi esbonio pam y dywedodd y byddai hi'n cyhoeddi amserlen ar gyfer yr holl sectorau a enwir y Mesur cyn diwedd 2015 mewn cyfarfod gyda ni ar 26ain Hydref 2015, ond ar 2il Rhagfyr 2015 cyhoeddodd amserlen nad oedd yn sôn am gwmnïau telathrebu o gwbl.
Dros bum mlynedd ers i Fesur y Gymraeg gael ei basio, mae'n sgandal nad yw'r Comisiynydd a'r Llywodraeth wedi ei weithredu'n llawn, a defnyddio eu pwerau i wella gwasanaethau Cymraeg. Er ein bod yn derbyn fod angen gwella ar y Mesur er mwyn hwyluso gosod Safonau ar y sectorau hyn yn gynt, mae'n fethiant gwbl annerbyniol nad oes cynnydd wedi ei wneud mewn nifer o feysydd. Mae'r methiant hwn yn amddifadu pobl, gan gynnwys pobl ifanc sy'n defnyddio'n helaeth y dyfeisiadau symudol a ddarperir gan gwmnïau telathrebu, o'r hawl i fyw eu bywydau drwy'r Gymraeg.
Pan ddaw hi at y sector telathrebu felly, yr unig gasgliad gallwn ni ddod iddo yw bod dealltwriaeth anysgrifenedig rhwng y Llywodraeth a'r Comisiynydd i beidio â gweithredu'r pwerau yn y Mesur.
Mae'r diffyg tryloywder ynghylch pam nad oes amserlen wedi ei gyhoeddi ar gyfer y sector telathrebu'n ddifrifol o wael. Gofynnwn yn garedig i chi ddefnyddio'ch pwerau i sicrhau fod y Comisiynydd a'r Llywodraeth yn atebol am eu methiant i weithredu.
Yn gywir,
Manon Elin James, Cadeirydd, Grŵp Hawl, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg